Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 15

15
Saith angel gyda saith pla
1Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda’r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai’r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. 2A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai’n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai’r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a’i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i’w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi’u rhoi iddyn nhw, 3ac roedden nhw’n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:
“Mae popeth rwyt yn ei wneud
mor anhygoel a rhyfeddol
Arglwydd Dduw Hollalluog.
Mae beth rwyt yn ei wneud
yn gyfiawn a theg,
Frenin pob oes.
4Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,
a chanmol dy enw di, Arglwydd?
Oherwydd dim ond ti sy’n sanctaidd.
Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod
i addoli o dy flaen di,
oherwydd mae’n amlwg
fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
5Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‘pabell y dystiolaeth’,#gw. Numeri 9:15 ar agor yn y nefoedd. 6Allan ohoni daeth y saith angel gyda’r saith pla. Roedden nhw wedi’u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. 7Wedyn dyma un o’r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o’r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy’n byw am byth bythoedd. 8Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi’r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i’r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.

Dewis Presennol:

Datguddiad 15: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda