Datguddiad 13:1-4
Datguddiad 13:1-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
a gwelais anghenfil yn dod allan o’r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o’i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o’i bennau. Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a’i geg fel ceg llew. Dyma’r ddraig yn rhoi iddo ei grym a’i gorsedd a’i hawdurdod mawr. Roedd un o bennau’r anghenfil yn edrych fel petai wedi derbyn anaf marwol, ond roedd yr anaf wedi cael ei iacháu. Roedd pobl y byd i gyd wedi’u syfrdanu gan hyn ac yn dilyn yr anghenfil. Roedden nhw’n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i’r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw’n siantio, “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!”
Datguddiad 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A gwelais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar bob un o'i bennau enw cableddus. Yr oedd y bwystfil a welais yn debyg i lewpard, ond ei draed fel traed arth a'i enau fel genau llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a'i gorsedd ac awdurdod mawr. Yr oedd un o'i bennau fel pe bai wedi cael ergyd farwol, ond yr oedd ei glwyf marwol wedi ei iacháu. Aeth yr holl fyd ar ôl y bwystfil yn llawn rhyfeddod, ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”
Datguddiad 13:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd. A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew: a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a’i friw marwol ef a iachawyd: a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil. A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i’r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?