Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 13

13
1Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd. 2A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew: a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. 3Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a’i friw marwol ef a iachawyd: a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil. 4A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i’r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef? 5A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain. 6Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a’i dabernacl, a’r rhai sydd yn trigo yn y nef. 7A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint, a’u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl. 8A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd. 9Od oes gan neb glust, gwrandawed. 10Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint. 11Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig. 12A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol. 13Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear, yng ngolwg dynion; 14Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw. 15A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd, ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil, eu lladd. 16Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: 17Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef. 18Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi’r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a’i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

Dewis Presennol:

Datguddiad 13: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda