Datguddiad 12:7-10
Datguddiad 12:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a’i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a’i hangylion yn ymladd yn ôl, ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw’n colli eu lle yn y nefoedd. Dyma’r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy’n cael ei galw ‘y diafol’ a ‘Satan’ ac sy’n twyllo’r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i’r ddaear, a’i hangylion gyda hi. Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud
Datguddiad 12:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau, ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef. Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi. Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: “Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
Datguddiad 12:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu rhyfel yn y nef: Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau, Ac ni orfuant; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd: efe a fwriwyd allan i’r ddaear, a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef. Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.