Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 12

12
Y Wraig a'r Ddraig
1Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen. 2Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor. 3Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem. 4Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni. 5Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef. 6Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
7Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau, 8ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef. 9Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi. 10Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud:
“Hon yw awr gwaredigaeth a gallu
a brenhiniaeth ein Duw ni,
ac awdurdod ei Grist ef,
oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr,
yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
11Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen
a thrwy air eu tystiolaeth,
yn ddibris o'u bywyd hyd angau.
12Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd,
a chwi sy'n preswylio ynddynt!
Gwae chwi'r ddaear a'r môr,
oherwydd disgynnodd y diafol arnoch
yn fawr ei lid,
o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!”
13Pan welodd y ddraig ei bod wedi ei bwrw i'r ddaear, aeth i erlid y wraig a esgorodd ar y plentyn gwryw. 14Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff. 15Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif. 16Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau. 17Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu. 18Ac yna safodd ar dywod y môr.

Dewis Presennol:

Datguddiad 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda