Datguddiad 12:14-16
Datguddiad 12:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i’r wraig, iddi allu hedfan i’r lle oedd wedi’i baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi’n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner. Yna dyma’r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a’u hysgubo i ffwrdd gyda’r llif. Ond dyma’r ddaear yn helpu’r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi’i chwydu o’i cheg.
Datguddiad 12:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff. Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif. Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.
Datguddiad 12:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i’r diffeithwch, i’w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff. A’r sarff a fwriodd allan o’i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon. A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a’r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn.