Salm 96:2-7
Salm 96:2-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Canwch i’r ARGLWYDD, canmolwch ei enw, a dweud bob dydd sut mae e’n achub. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud. Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli! Mae’n haeddu ei barchu’n fwy na’r ‘duwiau’ eraill i gyd. Eilunod diwerth ydy duwiau’r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu’r nefoedd! Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg; mae ei gryfder a’i harddwch yn ei deml. Dewch, bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD!
Salm 96:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a gogoniant yn ei gysegr. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth
Salm 96:2-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.