Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
Darllen Y Salmau 96
Gwranda ar Y Salmau 96
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 96:2-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos