Salm 95:1-11
Salm 95:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth. Down i'w bresenoldeb â diolch, gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl. Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd. Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir. Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth. Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais. Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch, pan fu i'ch hynafiaid fy herio a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith. Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno, a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.” Felly tyngais yn fy nig na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.
Salm 95:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dewch, gadewch i ni ganu’n llawen i’r ARGLWYDD, a gweiddi’n mawl i’r Graig sy’n ein hachub! Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi’n uchel a chanu mawl iddo! Achos yr ARGLWYDD ydy’r Duw mawr, y Brenin mawr sy’n uwch na’r ‘duwiau’ i gyd. Mae mannau dyfna’r ddaear yn ei ddwylo, a chopaon y mynyddoedd hefyd! Fe sydd biau’r môr, am mai fe wnaeth ei greu; a’r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio. Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo, mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD, ein Crëwr. Fe ydy’n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw. O na fyddech chi’n gwrando arno heddiw! “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba, neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch. Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod, a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i! Am bedwar deg mlynedd rôn i’n eu ffieiddio nhw: ‘Maen nhw’n bobl hollol anwadal,’ meddwn i; ‘dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi!’”
Salm 95:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein DUW ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.