Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 95

95
SALM 95
1Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau.
3Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
5Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
6Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
7Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
8Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
9Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
10Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
11Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

Dewis Presennol:

Y Salmau 95: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda