Salm 92:12-15
Salm 92:12-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd; ac yn tyfu’n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus. Maen nhw wedi’u plannu yn nheml yr ARGLWYDD, ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno. Byddan nhw’n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw’n hen; byddan nhw’n dal yn ffres ac yn llawn sudd. Maen nhw’n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn – mae e’n graig saff i mi, a does dim anghyfiawnder yn agos ato.
Salm 92:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd, ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon. Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD, ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw. Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint, a pharhânt yn wyrdd ac iraidd. Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn, ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.
Salm 92:12-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW. Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: I fynegi mai uniawn yw yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.