Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 90:1-17

Salm 90:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddio ar hyd y cenedlaethau. Cyn i’r mynyddoedd gael eu geni, a chyn bod y ddaear a’r byd yn bodoli, roeddet ti’n Dduw, o dragwyddoldeb pell. Ti sy’n anfon pobl yn ôl i’r pridd drwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!” Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg di fel diwrnod sydd wedi pasio heibio, neu fel gwylfa nos. Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg, ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore. Mae’n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore, ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu. Dyna sut dŷn ni’n gwywo pan wyt ti’n gwylltio; mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau. Ti’n gwybod am ein methiant ni i gyd, ac yn gweld ein pechodau cudd ni. Mae’n bywydau ni’n mynd heibio dan dy ddig; mae’n blynyddoedd ni’n darfod fel ochenaid. Dŷn ni’n byw am saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd; ond mae’r gorau ohonyn nhw’n llawn trafferthion! Maen nhw’n mynd heibio mor sydyn! A dyna ni wedi mynd! Does neb eto wedi profi holl rym dy lid. Mae dy ddig yn hawlio parch! Felly dysga ni i wneud y gorau o’n dyddiau, a gwna ni’n ddoeth. Tro yn ôl aton ni, ARGLWYDD! Faint mwy mae’n rhaid i ni ddisgwyl? Dangos drugaredd at dy weision. Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore, yn gwneud i ni ganu’n llawen bob dydd! Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnod ag rwyt ti wedi’n cosbi ni – sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o’i le. Gad i dy weision dy weld ti’n gwneud pethau mawr eto! Gad i’n plant ni weld mor wych wyt ti! Boed i’r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni. Gwna i’n hymdrechion ni lwyddo. Ie, gwna i’n hymdrechion ni lwyddo!

Salm 90:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni ymhob cenhedlaeth. Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw. Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch, ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.” Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos. Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd; y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore— yn tyfu ac yn adfywio yn y bore, ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino. Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig, ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd. Gosodaist ein camweddau o'th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig, a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid. Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter, a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni? Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth. Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd? Trugarha wrth dy weision. Digona ni yn y bore â'th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau. Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni, gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd. Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision, a'th ogoniant i'w plant. Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.

Salm 90:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ti, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.