Salm 84:10-11
Salm 84:10-11 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd yn rhywle arall! Byddai’n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg. Mae’r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i’n hamddiffyn ni! Mae’r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e’n rhoi popeth da i’r rhai sy’n byw yn onest.
Salm 84:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni. Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
Salm 84:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD DDUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.