Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 84

84
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I feibion Cora. Salm.
1Mor brydferth yw dy breswylfod,
O ARGLWYDD y Lluoedd.
2Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg
am gynteddau'r ARGLWYDD;
y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen
ar y Duw byw.
3Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,
a'r wennol nyth iddi ei hun,
lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di,
O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,
yn canu mawl i ti'n wastadol.
5Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,
a ffordd y pererinion#84:5 Cymh. Syrieg. Hebraeg, a phriffyrdd. yn eu calon.
6Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca
fe'i cânt yn ffynnon;
bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.
7Ânt o nerth i nerth,
a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
8O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;
gwrando arnaf, O Dduw Jacob.
Sela
9Edrych ar ein tarian, O Dduw;
rho ffafr i'th eneiniog.
10Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di
na mil gartref#84:10 Tebygol. Hebraeg, dewiswn.;
gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw
na thrigo ym mhebyll drygioni.
11Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw;
rhydd ras ac anrhydedd.
Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni
oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
12O ARGLWYDD y Lluoedd,
gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.

Dewis Presennol:

Y Salmau 84: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd