Salm 84:1-4
Salm 84:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae lle rwyt ti’n byw mor hyfryd, O ARGLWYDD hollbwerus! Dw i’n hiraethu; ydw, dw i’n ysu am gael mynd i deml yr ARGLWYDD. Mae’r cyfan ohono i’n gweiddi’n llawen ar y Duw byw! Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartref yno! Mae’r wennol wedi gwneud nyth iddi’i hun, i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di, O ARGLWYDD hollbwerus, fy Mrenin a’m Duw. Y fath fendith sydd i’r rhai sy’n aros yn dy dŷ di, y rhai sy’n dy addoli di drwy’r adeg! Saib
Salm 84:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd. Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw. Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref, a'r wennol nyth iddi ei hun, lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di, O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw. Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ, yn canu mawl i ti'n wastadol.
Salm 84:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd! Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW byw. Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW. Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela.