Salm 84:1-12
Salm 84:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae lle rwyt ti’n byw mor hyfryd, O ARGLWYDD hollbwerus! Dw i’n hiraethu; ydw, dw i’n ysu am gael mynd i deml yr ARGLWYDD. Mae’r cyfan ohono i’n gweiddi’n llawen ar y Duw byw! Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartref yno! Mae’r wennol wedi gwneud nyth iddi’i hun, i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di, O ARGLWYDD hollbwerus, fy Mrenin a’m Duw. Y fath fendith sydd i’r rhai sy’n aros yn dy dŷ di, y rhai sy’n dy addoli di drwy’r adeg! Saib Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu cadw nhw’n saff, wrth iddyn nhw deithio’n frwd ar bererindod i dy deml! Wrth iddyn nhw basio drwy ddyffryn Bacha, byddi di wedi ei droi yn llawn ffynhonnau. Bydd y glaw cynnar wedi tywallt ei fendithion arno. Byddan nhw’n symud ymlaen o nerth i nerth, a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion. O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, gwrando ar fy ngweddi! Clyw fi, O Dduw Jacob. Saib Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw! Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio. Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd yn rhywle arall! Byddai’n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg. Mae’r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i’n hamddiffyn ni! Mae’r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e’n rhoi popeth da i’r rhai sy’n byw yn onest. O ARGLWYDD hollbwerus, y fath fendith sydd i rywun sy’n dy drystio di!
Salm 84:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd. Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw. Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref, a'r wennol nyth iddi ei hun, lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di, O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw. Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ, yn canu mawl i ti'n wastadol. Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt, a ffordd y pererinion yn eu calon. Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe'i cânt yn ffynnon; bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith. Ânt o nerth i nerth, a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion. O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi; gwrando arnaf, O Dduw Jacob. Sela Edrych ar ein tarian, O Dduw; rho ffafr i'th eneiniog. Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni. Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir. O ARGLWYDD y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.
Salm 84:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd! Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW byw. Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW. Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron DUW yn Seion. O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela. O DDUW ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD DDUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. O ARGLWYDD y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.