Salm 78:70-72
Salm 78:70-72 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dewisodd Dafydd, ei was, a’i gymryd oddi wrth y corlannau; o fod yn gofalu am y defaid i ofalu am ei bobl Jacob, sef Israel, ei etifeddiaeth. Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr; a’u harwain mor fedrus.
Rhanna
Darllen Salm 78Salm 78:70-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dewisodd Ddafydd yn was iddo, a'i gymryd o'r corlannau defaid; o fod yn gofalu am y mamogiaid daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob, ac Israel ei etifeddiaeth. Bugeiliodd hwy â chalon gywir, a'u harwain â llaw ddeheuig.
Rhanna
Darllen Salm 78Salm 78:70-72 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
Rhanna
Darllen Salm 78