Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 78:51-72

Salm 78:51-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft, blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid, a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch; arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn, ond gorchuddiodd y môr eu gelynion. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd, i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau; rhannodd eu tir yn etifeddiaeth, a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn, ac nid oeddent yn cadw ei ofynion. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid; yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac. Digiasant ef â'u huchelfeydd, a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod. Pan glywodd Duw, fe ddigiodd, a gwrthod Israel yn llwyr; gadawodd ei drigfan yn Seilo, y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl; gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud, a'i ogoniant i ddwylo gelynion; rhoes ei bobl i'r cleddyf, a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth. Ysodd tân eu gwŷr ifainc, ac nid oedd gân briodas i'w morynion; syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf, ac ni allai eu gweddwon alaru. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg, fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win. Trawodd ei elynion yn eu holau, a dwyn arnynt warth tragwyddol. Gwrthododd babell Joseff, ac ni ddewisodd lwyth Effraim; ond dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion y mae'n ei garu. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd, a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth. Dewisodd Ddafydd yn was iddo, a'i gymryd o'r corlannau defaid; o fod yn gofalu am y mamogiaid daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob, ac Israel ei etifeddiaeth. Bugeiliodd hwy â chalon gywir, a'u harwain â llaw ddeheuig.

Salm 78:51-72 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft, ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham. Yna aeth â’i bobl allan fel defaid, a’u harwain fel praidd yn yr anialwch. Arweiniodd nhw’n saff a heb ofn, ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr. Yna daeth â nhw i’w dir cysegredig, i’r mynydd oedd wedi’i gymryd drwy rym. Gyrrodd allan genhedloedd o’u blaenau, a rhannu’r tir rhyngddyn nhw; gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle. Ond dyma nhw’n rhoi’r Duw Goruchaf ar brawf eto! Gwrthryfela yn ei erbyn, a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn. Dyma nhw’n troi eu cefnau arno, a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid; roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim! Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio; a’u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog; a gwrthododd Israel yn llwyr. Trodd ei gefn ar ei dabernacl yn Seilo, sef y babell lle roedd yn byw gyda’i bobl. Gadawodd i’w Arch gael ei dal; rhoddodd ei ysblander yn nwylo’r gelyn! Gadawodd i’w bobl gael eu lladd â’r cleddyf; roedd wedi gwylltio gyda’i etifeddiaeth. Daeth tân i ddinistrio’r dynion ifanc, ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi. Tarodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr, a doedd dim amser i’r gweddwon alaru. Ond yna dyma’r Meistr yn deffro! Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win. Gyrrodd ei elynion yn eu holau a chodi cywilydd arnyn nhw am byth. Ond yna gadawodd dir Joseff, a pheidio dewis llwyth Effraim. Dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion mae mor hoff ohono. Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd, ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi’i sefydlu am byth. Dewisodd Dafydd, ei was, a’i gymryd oddi wrth y corlannau; o fod yn gofalu am y defaid i ofalu am ei bobl Jacob, sef Israel, ei etifeddiaeth. Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr; a’u harwain mor fedrus.

Salm 78:51-72 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt. Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau: Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus. Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau. Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr: Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion; Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn. Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth. Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd. Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant. Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin. Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol. Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim: Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd. Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd. Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.