Salm 78:21-50
Salm 78:21-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn. Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob. Roedd wedi gwylltio’n lân gydag Israel, am eu bod nhw heb drystio Duw, a chredu ei fod yn gallu achub. Ond rhoddodd orchymyn i’r awyr uwch eu pennau, ac agorodd ddrysau’r nefoedd. Glawiodd fanna iddyn nhw i’w fwyta; rhoddodd ŷd o’r nefoedd iddyn nhw! Cafodd y bobl fwyta bara’r angylion! Roedd digonedd o fwyd i bawb. Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu yn yr awyr, ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth. Roedd hi’n glawio cig fel llwch, adar yn hedfan – cymaint â’r tywod ar lan y môr! Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll, o gwmpas y babell lle roedd e’i hun yn aros. Felly cawson nhw fwy na digon i’w fwyta; rhoddodd iddyn nhw’r bwyd roedden nhw’n crefu amdano. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta, pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau, dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e! Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw, a tharo i lawr rai ifanc Israel. Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw’n dal i bechu! Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol. Yn sydyn roedd Duw wedi dod â’u dyddiau i ben; daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl. Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw’n ei geisio; roedden nhw’n troi’n ôl ato ac yn hiraethu amdano. Dyma nhw’n cofio mai Duw oedd eu Craig ac mai’r Duw Goruchaf oedd wedi’u rhyddhau nhw. Ond doedd eu geiriau’n ddim byd ond rhagrith; roedden nhw’n dweud celwydd. Doedden nhw ddim wir o ddifrif, nac yn ffyddlon i’w hymrwymiad. Ac eto, mae Duw mor drugarog! Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal; wnaeth e ddim eu dinistrio nhw. Roedd yn ffrwyno’i deimladau dro ar ôl tro, yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw. Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw – chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl. Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch, a pheri gofid iddo yn y tir diffaith. Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro, a digio Un Sanctaidd Israel. Anghofio beth wnaeth e pan ollyngodd nhw’n rhydd o afael y gelyn. Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft, a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan: Trodd yr afonydd yn waed, fel eu bod nhw’n methu yfed y dŵr. Anfonodd haid o bryfed i’w pigo a llyffantod i ddifetha’r wlad. Rhoddodd eu cnydau i bla o lindys, ffrwyth y tir i bla o locustiaid. Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg, a’r coed sycamorwydd â rhew. Trawodd y cenllysg eu gwartheg, a’r mellt eu preiddiau. Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw, yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini, ac anfon criw o angylion dinistriol i agor llwybr i’w lid. Wnaeth e ddim arbed eu bywydau, ond anfon haint i’w dinistrio nhw.
Salm 78:21-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd; cyneuwyd tân yn erbyn Jacob, a chododd llid yn erbyn Israel, am nad oeddent yn credu yn Nuw, nac yn ymddiried yn ei waredigaeth. Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod, ac agorodd ddrysau'r nefoedd; glawiodd arnynt fanna i'w fwyta, a rhoi iddynt ŷd y nefoedd; yr oedd pobl yn bwyta bara angylion, a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder. Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd, ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt; glawiodd arnynt gig fel llwch, ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr; parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll, o gwmpas eu pebyll ym mhobman. Bwytasant hwythau a chawsant ddigon, oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad. Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant, a'r bwyd yn dal yn eu genau, cododd dig Duw yn eu herbyn, a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt, a darostwng rhai dewisol Israel. Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu, ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau. Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad, a'u blynyddoedd mewn dychryn. Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio; yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw. Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig, ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd. Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau, ac yn dweud celwydd â'u tafodau; nid oedd eu calon yn glynu wrtho, ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd, ac ni ddistrywiodd hwy; dro ar ôl tro ataliodd ei ddig, a chadw ei lid rhag codi. Cofiodd mai cnawd oeddent, gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch, a pheri gofid iddo yn y diffeithwch! Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw, a blino Sanct Israel. Nid oeddent yn cofio ei rym y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn, pan roes ei arwyddion yn yr Aifft a'i ryfeddodau ym meysydd Soan. Fe drodd eu hafonydd yn waed, ac ni allent yfed o'u ffrydiau. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu, a llyffaint a oedd yn eu difa. Rhoes eu cnwd i'r lindys, a ffrwyth eu llafur i'r locust. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â glawogydd. Rhoes eu gwartheg i'r haint, a'u diadell i'r plâu. Anfonodd ei lid mawr arnynt, a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid— cwmni o negeswyr gwae— a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd. Nid arbedodd hwy rhag marwolaeth ond rhoi eu bywyd i'r haint.
Salm 78:21-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel; Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt; Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau, Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel. Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef. Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn. Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore. Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf DDUW oedd eu Gwaredydd. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod: A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch? Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel. Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn. Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan: Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed. Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha. Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust. Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew. Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt. Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg. Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.