Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 71:1-24

Salm 71:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti’n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi’n rhydd. Gwranda arna i! Achub fi! Bydd yn graig i mi gysgodi tani – yn gaer lle bydda i’n hollol saff! Ti ydy’r graig ddiogel yna; ti ydy’r gaer. Fy Nuw, achub fi o ddwylo’r rhai drwg, ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon. Achos ti ydy fy ngobaith i, fy meistr, fy ARGLWYDD. Dw i wedi dy drystio di ers pan o’n i’n ifanc. Dw i’n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni; ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam, a thi ydy testun fy mawl bob amser. Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer, am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi. Dw i’n dy foli di drwy’r adeg, ac yn dy ganmol drwy’r dydd. Paid taflu fi i ffwrdd yn fy henaint, a’m gadael wrth i’r corff wanhau. Mae fy ngelynion yn siarad amdana i, a’r rhai sy’n gwylio fy mywyd yn cynllwynio. “Mae Duw wedi’i adael,” medden nhw. “Ewch ar ei ôl, a’i ddal; fydd neb yn dod i’w achub!” O Dduw, paid mynd yn rhy bell! Fy Nuw, brysia i’m helpu i! Gad i’r rhai sy’n fy erbyn i gael eu cywilyddio’n llwyr. Gad i’r rhai sydd am wneud niwed i mi gael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd! Ond bydda i’n gobeithio bob amser, ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy. Bydda i’n dweud am dy gyfiawnder. Bydda i’n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti’n achub; mae cymaint i’w ddweud! Dw i’n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud – fy meistr, fy ARGLWYDD – a dathlu’r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig! O Dduw, dw i wedi profi’r peth ers pan oeddwn i’n ifanc, ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud hyd heddiw. Dw i bellach yn hen a’m gwallt yn wyn, ond paid gadael fi nawr, O Dduw. Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod am dy gryfder a’r pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud. Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw! Ti wedi gwneud pethau mor fawr – O Dduw, does neb tebyg i ti! Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw, wnei di adael i mi fyw eto? Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear? Adfer fy enw da! Cysura fi unwaith eto. Yna byddaf yn dy foli gyda’r nabl, a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw! Bydda i’n canu i ti gyda’r delyn, O Un Sanctaidd Israel. Bydda i’n gweiddi’n llawen, ac yn canu i ti go iawn – ie, â’m holl nerth, am i ti ngollwng i’n rhydd. Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder. Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a’u cywilyddio!

Salm 71:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches; na fydded cywilydd arnaf byth. Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi, tro dy glust ataf ac arbed fi. Bydd yn graig noddfa i mi, yn amddiffynfa i'm cadw, oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa. O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus, o afael yr anghyfiawn a'r creulon. Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith, fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD. Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth; ti a'm tynnodd allan o groth fy mam. Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad. Bûm fel pe'n rhybudd i lawer; ond ti yw fy noddfa gadarn. Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant ac o'th ogoniant bob amser. Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint; paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu. Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf, a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd, ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael; ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.” O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf; O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo. Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr, a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu. Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad, ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy. Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer. Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig. O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau; a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid â'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi. Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw, yn cyrraedd i'r uchelder, oherwydd iti wneud pethau mawr. O Dduw, pwy sydd fel tydi? Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw, fydd yn fy adfywio drachefn; ac o ddyfnderau'r ddaear fe'm dygi i fyny unwaith eto. Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd, ac yn troi i'm cysuro. Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nabl am dy ffyddlondeb, O fy Nuw; byddaf yn canu i ti â'r delyn, O Sanct Israel. Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen— oherwydd canaf i ti— a hefyd yr enaid a waredaist. Bydd fy nhafod beunydd yn sôn am dy gyfiawnder; oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.

Salm 71:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ynot ti, O ARGLWYDD, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. Gwared fi, O fy NUW, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid. Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa. Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth. Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant, Gan ddywedyd, DUW a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd. O DDUW, na fydd bell oddi wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth. Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi. Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy. Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. Yng nghadernid yr Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. Na wrthod fi chwaith, O DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo. Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti? Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear. Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch. Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel. Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist. Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.