Salm 66:1-9
Salm 66:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwaeddwch yn uchel i Dduw, holl bobl y byd! Canwch gân i ddweud mor wych ydy e, a’i foli’n hyfryd. Dwedwch wrth Dduw, “Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol! Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen. Mae’r byd i gyd yn dy addoli, ac yn canu mawl i ti! Maen nhw’n dy foli di ar gân!” Saib Dewch i weld beth wnaeth Duw. Mae’r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol. Trodd y môr yn dir sych, a dyma nhw’n cerdded drwy’r afon! Gadewch i ni ddathlu’r peth! Mae e’n dal i deyrnasu yn ei nerth, ac mae’n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd; felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni; gadewch i ni glywed pobl yn ei foli! Fe sy’n ein cadw ni’n fyw; dydy e ddim wedi gadael i’n traed lithro.
Salm 66:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear; canwch i ogoniant ei enw; rhowch iddo foliant gogoneddus. Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd! Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen; y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw.” Sela Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw— y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl— trodd y môr yn sychdir, aethant ar droed trwy'r afon; yno y llawenychwn ynddo. Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth, a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd; na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn! Sela Bendithiwch ein Duw, O bobloedd, a seiniwch ei fawl yn glywadwy. Ef a roes le i ni ymysg y byw, ac ni adawodd i'n troed lithro.
Salm 66:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear: Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. Deuwch, a gwelwch weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. O bobloedd, bendithiwch ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef: Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.