Salm 65:1-13
Salm 65:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion; ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned. Atat ti y daw pob un â'i gyffes o bechod: “Y mae ein troseddau'n drech na ni, ond yr wyt ti'n eu maddau.” Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau â daioni dy dŷ, dy deml sanctaidd. Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth, O Dduw ein hiachawdwriaeth; ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear a phellafoedd y môr; gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th nerth, yr wyt wedi dy wregysu â chryfder; yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd, rhu eu tonnau, a therfysg pobloedd. Y mae trigolion cyrion y byd yn ofni dy arwyddion; gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau. Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddŵr; darperaist iddynt ŷd. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer: dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau, ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd. Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster. Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd; y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid, a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd. Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.
Salm 65:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw, a chyflawni’n haddewidion i ti. Ti sy’n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti! Pan mae’n holl bechodau yn ein llethu ni, rwyt ti’n maddau’r gwrthryfel i gyd. Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis, a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml. Llenwa ni â bendithion dy dŷ, sef dy deml sanctaidd! Ti’n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau’n iawn, a’n hateb, O Dduw, ein hachubwr. Mae pobl drwy’r byd i gyd, ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti. Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle; rwyt ti mor gryf! Ti sy’n tawelu’r môr stormus, a’i donnau gwyllt, a’r holl bobloedd sy’n codi terfysg. Mae pobl ym mhen draw’r byd wedi’u syfrdanu gan dy weithredoedd. O’r dwyrain i’r gorllewin maen nhw’n gweiddi’n llawen. Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a’i gwneud yn hynod ffrwythlon. Mae’r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr! Ti’n rhoi ŷd i bobl drwy baratoi’r tir fel yma. Ti’n socian y cwysi ac mae dŵr yn llifo i’r rhychau. Ti’n mwydo’r tir â chawodydd, ac yn bendithio’r cnwd sy’n tyfu. Dy ddaioni di sy’n coroni’r flwyddyn. Mae dy lwybrau’n diferu digonedd. Mae hyd yn oed porfa’r anialwch yn diferu, a’r bryniau wedi’u gwisgo â llawenydd. Mae’r caeau wedi’u gorchuddio gyda defaid a geifr, a’r dyffrynnoedd dan flanced o ŷd. Maen nhw’n gweiddi ac yn canu’n llawen.
Salm 65:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mawl a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon DUW, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.