Salm 62:5-8
Salm 62:5-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ie, disgwyl di’n dawel am Dduw, fy enaid, achos fe ydy dy obaith di. Fe ydy’r graig lle dw i’n ddiogel; lle i mi gysgodi sy’n hollol saff. Mae Duw’n edrych ar ôl fy lles i, ac mae’n rhoi nerth i mi. Dw i’n gadarn fel y graig, ac yn hollol saff gyda Duw. Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl! Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen. Duw ydy’n hafan ddiogel ni. Saib
Salm 62:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith. Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir. Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw. Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl, tywalltwch allan eich calon iddo; Duw yw ein noddfa. Sela
Salm 62:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O fy enaid, disgwyl wrth DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW. Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.