Salm 50:1-6
Salm 50:1-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad, ac wedi galw pawb drwy’r byd i gyd i ddod at ei gilydd. Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un; mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander! Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel – mae tân yn difa popeth o’i flaen, ac mae storm yn rhuo o’i gwmpas. Mae’n galw ar y nefoedd uchod, a’r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl. “Galwch fy mhobl arbennig i mewn, y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.” Yna dyma’r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, am mai Duw ydy’r Barnwr. Saib
Salm 50:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd; galwodd y ddaear o godiad haul hyd ei fachlud. O Seion, berffaith ei phrydferthwch, y llewyrcha Duw. Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw; bydd tân yn ysu o'i flaen, a thymestl fawr o'i gwmpas. Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl: “Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.” Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, oherwydd Duw ei hun sydd farnwr. Sela
Salm 50:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW. Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.