Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 50

50
Addoli’r Duw go iawn
Salm gan Asaff.
1Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad,
ac wedi galw pawb drwy’r byd i gyd i ddod at ei gilydd.
2Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un;
mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander!
3Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel –
mae tân yn difa popeth o’i flaen,
ac mae storm yn rhuo o’i gwmpas.
4Mae’n galw ar y nefoedd uchod,
a’r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl.
5“Galwch fy mhobl arbennig i mewn,
y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.”
6Yna dyma’r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,
am mai Duw ydy’r Barnwr.
Saib
7“Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i’n siarad.
Gwrando, Israel. Dw i’n tystio yn dy erbyn di.
Duw ydw i, dy Dduw di!
8Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi,
nac am gyflwyno offrymau i’w llosgi’n rheolaidd.
9Ond does gen i ddim angen dy darw di,
na bwch gafr o dy gorlannau.
10Fi piau holl greaduriaid y goedwig,
a’r anifeiliaid sy’n pori ar fil o fryniau.
11Dw i’n nabod pob un o adar y mynydd,
a fi piau’r pryfed yn y caeau!
12Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti,
gan mai fi piau’r byd a phopeth sydd ynddo.
13Ydw i angen cig eidion i’w fwyta,
neu waed geifr i’w yfed? – Na!
14Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw,
a chadw dy addewidion i’r Goruchaf.
15Galw arna i pan wyt mewn trafferthion,
ac fe wna i dy achub di, a byddi’n fy anrhydeddu i.”
16Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg:
“Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfreithiau,
a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni?
17Ti ddim eisiau dysgu gen i;
ti’n cymryd dim sylw o beth dw i’n ddweud!
18Pan wyt ti’n gweld lleidr, rwyt ti’n ei helpu.
Ti’n cymysgu gyda dynion sy’n anffyddlon i’w gwragedd.
19Ti’n dweud pethau drwg o hyd,
ac yn twyllo pobl wrth siarad.
20Ti’n cynllwynio yn erbyn dy frawd,
ac yn gweld bai ar fab dy fam.
21Am fy mod i’n dawel pan wnest ti’r pethau hyn,
roeddet ti’n meddwl fy mod i run fath â ti!
Ond dw i’n mynd i dy geryddu di,
a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di.
22Felly meddylia am y peth, ti sy’n anwybyddu Duw!
Neu bydda i’n dy rwygo di’n ddarnau,
a fydd neb yn gallu dy achub di!
23Mae’r un sy’n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i.
Bydd y person sy’n byw fel dw i am iddo fyw
yn cael gweld Duw yn dod i’w achub.”

Dewis Presennol:

Salm 50: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd