Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 50:1-23

Salm 50:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad, ac wedi galw pawb drwy’r byd i gyd i ddod at ei gilydd. Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un; mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander! Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel – mae tân yn difa popeth o’i flaen, ac mae storm yn rhuo o’i gwmpas. Mae’n galw ar y nefoedd uchod, a’r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl. “Galwch fy mhobl arbennig i mewn, y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.” Yna dyma’r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, am mai Duw ydy’r Barnwr. Saib “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i’n siarad. Gwrando, Israel. Dw i’n tystio yn dy erbyn di. Duw ydw i, dy Dduw di! Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi, nac am gyflwyno offrymau i’w llosgi’n rheolaidd. Ond does gen i ddim angen dy darw di, na bwch gafr o dy gorlannau. Fi piau holl greaduriaid y goedwig, a’r anifeiliaid sy’n pori ar fil o fryniau. Dw i’n nabod pob un o adar y mynydd, a fi piau’r pryfed yn y caeau! Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti, gan mai fi piau’r byd a phopeth sydd ynddo. Ydw i angen cig eidion i’w fwyta, neu waed geifr i’w yfed? – Na! Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw, a chadw dy addewidion i’r Goruchaf. Galw arna i pan wyt mewn trafferthion, ac fe wna i dy achub di, a byddi’n fy anrhydeddu i.” Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg: “Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfreithiau, a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni? Ti ddim eisiau dysgu gen i; ti’n cymryd dim sylw o beth dw i’n ddweud! Pan wyt ti’n gweld lleidr, rwyt ti’n ei helpu. Ti’n cymysgu gyda dynion sy’n anffyddlon i’w gwragedd. Ti’n dweud pethau drwg o hyd, ac yn twyllo pobl wrth siarad. Ti’n cynllwynio yn erbyn dy frawd, ac yn gweld bai ar fab dy fam. Am fy mod i’n dawel pan wnest ti’r pethau hyn, roeddet ti’n meddwl fy mod i run fath â ti! Ond dw i’n mynd i dy geryddu di, a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di. Felly meddylia am y peth, ti sy’n anwybyddu Duw! Neu bydda i’n dy rwygo di’n ddarnau, a fydd neb yn gallu dy achub di! Mae’r un sy’n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i. Bydd y person sy’n byw fel dw i am iddo fyw yn cael gweld Duw yn dod i’w achub.”

Salm 50:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd; galwodd y ddaear o godiad haul hyd ei fachlud. O Seion, berffaith ei phrydferthwch, y llewyrcha Duw. Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw; bydd tân yn ysu o'i flaen, a thymestl fawr o'i gwmpas. Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl: “Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.” Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, oherwydd Duw ei hun sydd farnwr. Sela “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf; dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel; myfi yw Duw, dy Dduw di. Ni cheryddaf di am dy aberthau, oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron. Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod geifr o'th gorlannau; oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig, a'r gwartheg ar fil o fryniau. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddof fi holl greaduriaid y maes. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti, oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo. A fwytâf fi gig eich teirw, neu yfed gwaed eich bychod geifr? Rhowch i Dduw offrymau diolch, a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.” Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw, “Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau, ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau? Yr wyt yn casáu disgyblaeth ac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl. Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn, a bwrw dy goel gyda godinebwyr. Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni, a'th dafod yn nyddu twyll. Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd, ac yn enllibio mab dy fam. Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw; tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun, ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn. “Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw, rhag imi eich darnio heb neb i arbed. Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu, ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”

Salm 50:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW. Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW.