Salm 46:9-11
Salm 46:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear, dryllia'r bwa, tyr y waywffon, a llosgi'r darian â thân. Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear. Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela
Salm 46:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân. “Stopiwch! Mae’n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i’n llawer uwch na’r cenhedloedd; dw i’n llawer uwch na’r ddaear gyfan.” Mae’r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
Salm 46:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela.