Salm 46:1-7
Salm 46:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw yn ein cadw ni’n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i’n helpu pan mae trafferthion. Felly fydd gynnon ni ddim ofn hyd yn oed petai’r ddaear yn ysgwyd, a’r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr gyda’i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu. Mae’r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo. Saib Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen. Ie, y ddinas lle mae’r Duw Goruchaf yn byw. Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio! Bydd Duw yn dod i’w helpu yn y bore bach. Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio. Pan mae Duw yn taranu mae’r ddaear yn toddi. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
Salm 46:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr, er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw, preswylfa sanctaidd y Goruchaf. Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi; cynorthwya Duw hi ar doriad dydd. Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian; pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear. Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela
Salm 46:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn. Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.