Salm 46:1-3
Salm 46:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw yn ein cadw ni’n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i’n helpu pan mae trafferthion. Felly fydd gynnon ni ddim ofn hyd yn oed petai’r ddaear yn ysgwyd, a’r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr gyda’i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu. Mae’r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo. Saib
Salm 46:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr, er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela
Salm 46:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.