Salm 44:1-3
Salm 44:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni wedi clywed, O Dduw, ac mae’n hynafiaid wedi dweud wrthon ni beth wnest ti yn eu dyddiau nhw, ers talwm. Gyda dy nerth symudaist genhedloedd, a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle. Gwnaethost niwed i’r bobl oedd yn byw yno, a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd. Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw; wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain. Na! Dy nerth di, dy allu di, dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl! Roeddet ti o’u plaid nhw.
Salm 44:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O Dduw, clywsom â'n clustiau, dywedodd ein hynafiaid wrthym am y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy, yn y dyddiau gynt â'th law dy hun. Gyrraist genhedloedd allan, ond eu plannu hwy; difethaist bobloedd, ond eu llwyddo hwy; oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir, ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth, ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di, a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi.
Salm 44:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.