Salm 42:5-11
Salm 42:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i. O fy Nuw, dw i’n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i’n ffoadur yma. Yma mae’r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar, lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau yn galw ar ei gilydd. Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo drosto i! Ond dw i’n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy’r dydd; ac yn y nos dw i’n canu cân o fawl iddo ac yn gweddïo ar y Duw byw. Dw i’n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel, “Pam wyt ti’n cymryd dim sylw ohono i? Pam mae’n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?” Mae’r rhai sy’n fy nghasáu i yn gwawdio; ac mae’n brathu i’r byw wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i.
Salm 42:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw. Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof; am hynny, meddyliaf amdanat ti o dir yr Iorddonen a Hermon ac o Fynydd Misar. Geilw dyfnder ar ddyfnder yn sŵn dy raeadrau; y mae dy fôr a'th donnau wedi llifo trosof. Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb, a liw nos y mae ei gân gyda mi, gweddi ar Dduw fy mywyd. Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig, “Pam yr anghofiaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?” Fel pe'n dryllio fy esgyrn, y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio, ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?” Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Salm 42:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, Eto yr ARGLWYDD a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar DDUW fy einioes. Dywedaf wrth DDUW fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW? Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.