Salm 42:1-6
Salm 42:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron? Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos, pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?” Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn— fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl. Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw. Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof; am hynny, meddyliaf amdanat ti o dir yr Iorddonen a Hermon ac o Fynydd Misar.
Salm 42:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i’n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw. Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o’i flaen yn ei deml? Dw i’n methu bwyta, ac yn crio nos a dydd, wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” Wrth gofio hyn i gyd dw i’n teimlo mor drist. Cofio mynd gyda’r dyrfa i dŷ Dduw; gweiddi a moli’n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu’r Ŵyl! F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i. O fy Nuw, dw i’n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i’n ffoadur yma. Yma mae’r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar
Salm 42:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW. Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW? Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.