Salm 41:1-3
Salm 41:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’r un sy’n garedig at y tlawd wedi’i fendithio’n fawr. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw’n saff pan mae mewn perygl. Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, A bydd yn profi bendith yn y tir. Fydd e ddim yn gadael i’w elynion gael eu ffordd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely, ac yn ei iacháu yn llwyr o’i afiechyd.
Salm 41:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd; bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
Salm 41:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd. Yr ARGLWYDD a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion. Yr ARGLWYDD a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.