Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 41

41
SALM 41
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd.
2Yr Arglwydd a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
3Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
5Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha.
7Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
8Aflwydd, meddant, a lĹ·n wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
9Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.
10Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
11Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
12Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
13Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.

Dewis Presennol:

Y Salmau 41: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda