Salm 38:1-10
Salm 38:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a’m cosbi i, a dweud y drefn yn dy wylltineb. Mae dy saethau wedi fy anafu; mae dy law wedi fy nharo i. Dw i’n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di! Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu. Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario. Mae’r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi, a’r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp. Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohono i’n hun. Dw i’n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy’r dydd. Mae fy ochrau’n boenus i gyd; dw i’n teimlo’n sâl drwyddo i. Mae rhyw boen mud yn fy llethu’n llwyr. Dw i’n griddfan mewn gwewyr meddwl. O ARGLWYDD, ti’n gwybod yn iawn be dw i eisiau! Rwyt ti wedi nghlywed i’n griddfan. Mae fy nghalon i’n curo’n gyflym; does gen i ddim nerth, a dw i’n colli fy ngolwg.
Salm 38:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid, ac na chosba fi yn dy ddig. Suddodd dy saethau ynof, y mae dy law yn drwm arnaf. Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd, nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod. Aeth fy nghamweddau dros fy mhen, y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal. Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawni oherwydd fy ffolineb. Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr, ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd. Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn, ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr, ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon. O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti, ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt. Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu, a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.
Salm 38:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.