Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 37:1-15

Salm 37:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw. Byddan nhw’n gwywo’n ddigon sydyn, fel glaswellt, ac yn diflannu fel egin gwan. Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda. Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb. Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau. Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di. Bydd e’n achub dy gam di o flaen pawb. Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg â’r haul ganol dydd. Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd! Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan, ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu’r tir! Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig. Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant. Mae’r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy’n byw yn iawn, ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwyllt. Ond mae’r ARGLWYDD yn chwerthin am eu pennau; mae e’n gwybod fod eu tro nhw’n dod! Mae’r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau ac yn plygu eu bwâu, i daro i lawr y rhai sy’n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen, ac i ladd y rhai sy’n byw’n gywir. Ond byddan nhw’n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain, a bydd eu bwâu yn cael eu torri!