Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir. Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.
Darllen Y Salmau 37
Gwranda ar Y Salmau 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 37:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos