Salm 35:15-28
Salm 35:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawen ac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn— poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabod yn fy enllibio heb arbed. Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar, ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf. O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych? Gwared fi rhag eu dinistr, a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr. Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr, a'th foliannu gerbron tyrfa gref. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos, nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch; ond yn erbyn rhai tawel y wlad y maent yn cynllwyn dichellion. Y maent yn agor eu cegau yn f'erbyn ac yn dweud, “Aha, aha, yr ydym wedi gweld â'n llygaid!” Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi; fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf. Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi, i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd. Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw, ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos. Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain, “Aha, cawsom ein dymuniad!” Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.” Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd; bydded gwarth ac amarch yn gorchuddio y rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn. Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhau orfoleddu a llawenhau; bydded iddynt ddweud yn wastad, “Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.” Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.
Salm 35:15-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient. Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf. Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod. Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer. Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad. Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir. Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad. Gwelaist hyn, ARGLWYDD: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O ARGLWYDD. Cyfod, a deffro i’m barn, sef i’m dadl, fy NUW a’m Harglwydd. Barn fi, ARGLWYDD fy NUW, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid. Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef. Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn. Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr ARGLWYDD, yr hwn a gâr lwyddiant ei was. Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.