Salm 32:1-11
Salm 32:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi’i fendithio’n fawr, mae ei bechodau wedi’u symud o’r golwg am byth. Mae’r un dydy’r ARGLWYDD ddim yn dal ati i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi’i fendithio’n fawr – yr un fyddai byth yn twyllo neb. Pan oeddwn i’n cadw’n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi’n frau ac roeddwn i’n tuchan mewn poen drwy’r dydd. Roeddet ti’n fy mhoenydio i nos a dydd; doedd gen i ddim egni, fel pan mae’r gwres yn llethol yn yr haf. Saib Ond wedyn dyma fi’n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i’n mynd i gyffesu’r cwbl i’r ARGLWYDD,” meddwn i, ac er fy mod i’n euog dyma ti’n maddau’r cwbl. Saib Felly, pan mae rhywun sy’n dy ddilyn di’n ffyddlon yn darganfod ei fod wedi pechu, dylai weddïo arnat ti rhag i’r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd. Ti ydy’r lle saff i mi guddio! Ti’n fy amddiffyn i rhag trafferthion. Mae pobl o’m cwmpas yn dathlu’n llawen am dy fod ti wedi fy achub i. Saib “Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a’ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.” Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul sy’n gwrthod bod yn ufudd, neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno. Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr, ond mae’r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon i’r rhai sy’n ei drystio fe. Felly, chi sy’n gwneud beth sy’n iawn, dathlwch beth mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud. Gorfoleddwch! Bloeddiwch yn llawen, bawb sy’n byw’n gywir!
Salm 32:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd. Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd. Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio â chuddio fy nrygioni; dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat ti yn nydd cyfyngder, a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr, ni fyddant yn cyrraedd ato ef. Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth. Sela Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat. Paid â bod fel march neu ful direswm y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat. Daw poenau lawer i'r drygionus; ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu. Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn; canwch yn uchel, pob un o galon gywir.
Salm 32:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef. Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.