Salm 31:19-20
Salm 31:19-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond mae gen ti gymaint o bethau da i’w rhoi i’r rhai sy’n dy addoli di. O flaen pawb, byddi’n rhoi’r cwbl iddyn nhw, sef y rhai sy’n troi atat ti am loches. Rwyt ti gyda nhw, ac yn eu cuddio rhag y dynion sy’n cynllwynio yn eu herbyn. Ti’n cysgodi drostyn nhw ac maen nhw’n saff rhag y tafodau miniog sy’n ymosod.
Salm 31:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor helaeth yw dy ddaioni sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni, ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot, a hynny yng ngŵydd pawb! Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y rhai sy'n cynllwyn; fe'u cedwi dan dy gysgod rhag ymryson tafodau.
Salm 31:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion! Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.