Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 31

31
SALM 31
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.
2Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.
3Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
4Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
5I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
8Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
9Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol.
10Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant.
11Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.
12Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
13Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.
14Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt.
15Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.
16Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
17 Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.
18Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.
19Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!
20Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
21Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
22Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.
23Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder.
24Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 31: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd