Salm 31:1-11
Salm 31:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder, tro dy glust ataf, a brysia i'm gwaredu; bydd i mi'n graig noddfa, yn amddiffynfa i'm cadw. Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi. Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer, oherwydd ti yw fy noddfa. Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon. Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD. Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb, oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder. Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored. Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae fy llygaid yn pylu gan ofid, fy enaid a'm corff hefyd; y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch a'm blynyddoedd gan gwynfan; fe sigir fy nerth gan drallod, ac y mae fy esgyrn yn darfod. I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg, i'm cymdogion yn watwar, ac i'm cyfeillion yn arswyd; y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
Salm 31:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti’n gyfiawn, felly achub fi. Gwranda arna i! Achub fi’n fuan! Bydd yn graig ddiogel i mi, yn gaer lle bydda i’n hollol saff. Ti ydy’r graig ddiogel yna; ti ydy’r gaer. Cadw dy enw da, dangos y ffordd i mi ac arwain fi. Rhyddha fi o’r rhwyd sydd wedi’i gosod i’m dal i, Ie, ti ydy fy lle diogel i. Dw i’n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di. Dw i’n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i achos ti, o ARGLWYDD, ydy’r Duw ffyddlon. Dw i’n casáu’r rhai sy’n addoli eilunod diwerth; ond dw i’n dy drystio di, ARGLWYDD. Bydda i’n dathlu’n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo, Paid gadael i’r gelyn fy nal i; gad i mi ddianc i le agored. Helpa fi, O ARGLWYDD, mae hi’n argyfwng arna i. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder – fy nghorff i gyd, a dweud y gwir. Dw i’n cael fy llethu gan boen; mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan. Mae pechod wedi fy ngwneud i’n wan, ac mae fy esgyrn yn frau. Mae’r holl elynion sydd gen i yn gwneud hwyl am fy mhen. Mae fy ffrindiau yn arswydo; mae pobl yn cadw draw pan maen nhw’n fy ngweld i ar y stryd.
Salm 31:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ynot ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd. Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD. Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder. Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.