Salm 30:1-12
Salm 30:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n dy ganmol di, O ARGLWYDD, am i ti fy nghodi ar fy nhraed; wnest ti ddim gadael i’m gelynion ddathlu. O ARGLWYDD, fy Nuw, gwaeddais arnat ti a dyma ti’n fy iacháu i. O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw, a’m cadw rhag disgyn i’r bedd. Canwch i’r ARGLWYDD, chi sy’n ei ddilyn yn ffyddlon, a’i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e! Dim ond am foment mae e’n ddig. Pan mae’n dangos ei ffafr mae’n rhoi bywyd. Gall rhywun fod yn crio wrth fynd i orwedd gyda’r nos; ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu’n llawen. Roedd popeth yn mynd yn dda a minnau’n meddwl, “All dim byd fynd o’i le.” Pan oeddet ti’n dangos dy ffafr, ARGLWYDD, roeddwn i’n gadarn fel y graig. Ond dyma ti’n troi dy gefn arna i, ac roedd arna i ofn am fy mywyd. Dyma fi’n galw arnat ti, ARGLWYDD, ac yn pledio arnat ti fy Meistr: “Beth ydy’r pwynt os gwna i farw, a disgyn i’r bedd? Fydd fy llwch i’n gallu dy foli di? Fydd e’n gallu sôn am dy ffyddlondeb? Gwranda arna i, ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i. O ARGLWYDD, helpa fi!” Yna dyma ti’n troi fy nhristwch yn ddawns; tynnu’r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu! Felly dw i’n mynd i ganu i ti gyda’m holl galon – wna i ddim tewi! O ARGLWYDD fy Nuw, bydda i’n dy foli di bob amser.
Salm 30:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu, a pheidio â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos. O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu. O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol, a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll. Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid, a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd. Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore. Yn fy hawddfyd fe ddywedwn, “Ni'm symudir byth.” Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn, ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi. Gelwais arnat ti, ARGLWYDD, ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd: “Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll? A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd? Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.” Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns, wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd, er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid. O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!
Salm 30:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, ARGLWYDD, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi. Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.