Salm 3:1-6
Salm 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Y mae llawer yn codi yn f'erbyn, a llawer yn dweud amdanaf, “Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.” Sela Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd. Sela Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu, ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal. Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu.
Salm 3:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion! Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i. Mae cymaint ohonyn nhw’n dweud, “Fydd Duw ddim yn dod i’w achub e!” Saib Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas. Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano! Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi. Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig. Saib Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro, am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i. Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr sy’n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
Salm 3:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela. Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.