Salm 3:1-5
Salm 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Y mae llawer yn codi yn f'erbyn, a llawer yn dweud amdanaf, “Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.” Sela Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd. Sela Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu, ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
Salm 3:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela. Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.