Salm 28:7-8
Salm 28:7-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; mae e’n darian i’m hamddiffyn. Dw i’n ei drystio fe’n llwyr. Daeth i’m helpu, a dw i wrth fy modd! Felly dw i’n mynd i ganu mawl iddo! Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
Salm 28:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân. Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.
Salm 28:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. Yr ARGLWYDD sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.