Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 28

28
SALM 28
Salm Dafydd.
1Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.
2Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd.
3Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon.
4Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.
5Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.
6Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau.
7Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
8Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
9Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 28: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd