Salm 26:1-7
Salm 26:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Achub fy ngham, O ARGLWYDD, dw i wedi bod yn onest. Dw i wedi dy drystio di, ARGLWYDD, bob amser. Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf! Treiddia i’m meddwl a’m cydwybod. Dw i’n gwybod mor ffyddlon wyt ti – a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen. Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy’n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy’n anonest. Dw i’n casáu cwmni dynion drwg, ac yn gwrthod cyngor pobl felly. Dw i’n golchi fy nwylo’n lân, ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD. Dw i eisiau diolch i ti, a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
Salm 26:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu. Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi, rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl. Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid, ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd. Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr. Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus. Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog, ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD, a chanu'n uchel mewn diolchgarwch ac adrodd dy holl ryfeddodau.
Salm 26:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf. Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf: I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.