Y Salmau 26
26
SALM 26
Salm Dafydd.
1Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf.
2Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon.
3Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
4Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.
5Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf.
6Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf:
7I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.
9Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:
10Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.
11Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.
12Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
Dewis Presennol:
Y Salmau 26: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.