Salm 20:1-5
Salm 20:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder, ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn. Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr, a'th gynnal o Seion. Bydded iddo gofio dy holl offrymau, ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau. Sela Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad, a chyflawni dy holl gynlluniau. Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth, a chodi banerau yn enw ein Duw. Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.
Salm 20:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno. Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW: cyflawned yr ARGLWYDD dy holl ddymuniadau.